CWESTIYNAU CYFFREDIN

Hoffem groesawu pawb i ddod i Amdanom Ni a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r hyn sydd i’w weld gymaint ag y bo modd.Ystyriwch gofrestru ar ein rhestr bostio yma fely medrwn anfon negeseuon e-bost atoch chi yn cynnwys gwybodaeth benodol am y lleoliad agosaf atoch chi a fydd yn dangos Amdanom Ni.

 

CYFFREDINOL:

 

A YW AM DDIM?

Cewch ddod i Amdanom Ni am ddim ac nid oes rhaid bwcio tocyn.

 

BETH FEDRA’ I EI DDISGWYL O AMDANOM NI?

Mae Amdanom Ni yn addas i bob oedran ac yn ystod y dydd, o 10 o’r gloch y bore, bydd ardal sioe Amdanom Ni ar agor i’r cyhoedd. Bydd ein sgriniau fideo mawr yn arddangos cynnwys a grewyd mewn partneriaeth â phobl o bob un o’r pum lleoliad. Ar ôl iddi dywyllu mae safle’r sioe yn gweddnewid i rannu Amdanom Ni, sy’n berfformiad awyr agored byw ac arddangosfa aml-gyfrwng sy’n parhau 25 munud y tro. Wrth i chi ddynesu at y safle byddwch yn gweld arwyddion yn eich cyfeirio at y fynedfa agosaf, ac fe allech chi gael eich dewis i ni wirio eich bag ar hap fel rhan o’n polisi diogelwch mynediad i’r safle. Unwaith y byddwch ar y safle fe’ch anogir i symud o gwmpas, cael profiad ardal y gynulleidfa a gweld y sgriniau fideo mawr wedi’u lleoli o gwmpas y safle.

Bydd newidiadau amlwg i’r sain a’r goleuo a fydd yn dynodi bod y perfformiad ar fin dechrau. Bydd yn cynnwys tafluniadau fideo a cherddoriaeth gan archwilio’r daith o’r Glec Fawr i’r presennol hyper-gysylltiedig. Unwaith y bydd y perfformiad wedi gorffen cewch adael trwy unrhyw allanfa o’ch dewis.
Bydd y perfformiad yn cael ei ailadrodd yn ystod y noson, ac fe’ch cynghorir i wirio’r amseroedd dechrau a gorffen ar gyfer eich lleoliad chi. Bydd stiwardiaid ar y safle trwy gydol yr amser a byddant yn medru eich cynorthwyo ag unrhyw gwestiynau ychwanegol neu anghenion ychwanegol gennych chi.
Os hoffech chi siarad ag aelod o’r tîm cyn dod i’r digwyddiad mae croeso i chi anfon neges e-bost i [email protected]

 

PWY SY’N COMISIYNU’R DIGWYDDIAD A PHWY SY’N EI GYNHYRCHU?

Mae Amdanom Ni yn brosiect cydweithredol wedi’i greu gan 59 Productions, The Poetry Society a Stemettes, wedi’i gomisiynu gan UNBOXED: Creativity in the UK fel rhan o ddathliad unwaith mewn oes y creadigrwydd sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig eleni. Mae hwn yn gyfle digynsail i bobl ddod at ei gilydd a chymryd rhan mewn cyfres o brosiectau creadigol a digwyddiad mawr llawn syndod am ddim. Cyllidir a chefnogir UNBOXED: Creativity in the UK gan bedair llywodraeth y Deyrnas Unedig ac fe’i comisiynir a’i cyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Belfast, Cymru Greadigol ac EventScotland.

 

A YW’R SIOE YN CYNNWYS GOLEUADAU SY’N FFLACHIO?

Mae Amdanom Ni yn cynnwys patrymau symudol gwrthgyferbyniad uchel a goleuadau sy’n fflachio yn ogystal â cherddoriaeth uchel, yn cynnwys cleciau swnllyd. Rydym yn disgwyl y bydd ffotograffiaeth fflach yn digwydd yn y cyffiniau hefyd. Byddwn yn cynnal perfformiadau mwy ymlaciol hefyd, lle bydd cryfder y goleuadau a’r effeithiau sain yn is.

 

A FYDD TOILEDAU AR GAEL?

Bydd toiledau cyhoeddus lleol ar gael fel arfer y tu allan i ardal y gynulleidfa. Ni fydd Amdanom Ni yn darparu unrhyw doiledau yn ardal y gynulleidfa.

 

BETH OS YW’N GLAWIO?

Bydd Amdanom Ni yn digwydd hyd yn oed os yw’n glawio. Anogir gwesteion i wisgo’n briodol. Ni chaniateir ymbarelau.
Os bydd tywydd gwael iawn (glaw trwm, storm drydanol, niwl, gwyntoedd cryfion) bydd perfformiad Amdanom Ni yn cael ei ganslo nes bo’r tywydd yn gwella.

 

A FYDDA’ I’N CAEL TYNNU LLUNIAU’R PROFIAD?

Wrth gwrs! Rydym ni’n annog gwesteion i dynnu lluniau trwy gydol y profiad. Cofiwch rannu eich lluniau gorau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r tag @AboutUs2022_ a defnyddio’r hashnod #AboutUs2022 Cofiwch rannu eich lluniau gorau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r tag @AboutUs2022_ a defnyddio’r hashnod #AboutUs2022

 

MYNEDIAD:

 

RYDW I’N DDEFNYDDIWR CADAIR OLWYN, A YW’R DIGWYDDIAD YN ADDAS I MI?

Dyluniwyd pob safle i fod â mynediad diogel, heb stepiau, i’r rhai mewn cadair olwyn neu â gofynion symudedd ychwanegol.

Bydd pob safle hefyd yn cynnwys ardal hygyrch i gadeiriau olwyn fel y gall y rhai sy’n dymuno defnyddio’r ardal honno gael gweld y digwyddiad yn well. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein hardal hygyrch neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hygyrchedd anfonwch neges e-bost i [email protected] cyn y sioe ac fe wnawn ni eich cynorthwyo i gael profiad rhagorol gyda ni yn ystod Amdanom Ni.

 

A OES GENNYCH CHI DDOLEN CLYW?

Bydd dolen clyw yn cael ei gosod ar y safle ar gyfer ardaloedd gwylio penodol. Bydd arwyddion yn eich cyfeirio at rannau perthnasol ardal y gynulleidfa.

 

A OES GENNYCH CHI UNRHYW BERFFORMIADAU SY’N CAEL EU DEHONGLI I’R BYDDAR?

Oes, bydd sgrîn fideo yn agos at yr ardal hygyrch a fydd yn dangos Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

 

A OES GENNYCH CHI UNRHYW BERFFORMIADAU SY’N CAEL EU DISGRIFIO AR LAFAR?

Bydd perfformiadau o Amdanom Ni sy’n cael eu disgrifio ar lafar ar gael fel rhan o’r sioe fyw o’r 2il o Fawrth yn Paisley.
Gofynnwn i chi gyrraedd ychydig yn gynharach i gael eich penset ac i anfon neges e-bost i [email protected] i adael i ni wybod pa noson rydych chi’n bwriadu dod i’r digwyddiad fel y medrwn gadw penset i chi a’ch hysbysu am y lle gorau i’w gasglu.

 

A FYDD UNRHYW IS-DEITLAU?

Bydd unrhyw destun sy’n cael ei lefaru yn cael ei is-deitlo yn ystod y perfformiad.

 

A FYDD PERFFORMIADAU MWY YMLACIOL?

Perfformiad mwy ymlaciol yw perfformiad lle mae cryfder y goleuo a lefel yr effeithiau sain yn is er mwyn lleihau’r straen i aelodau’r gynulleidfa a allai deimlo bod y sioe yn eu gorlethu. Bydd perfformiad mwy ymlaciol o Amdanom Ni yng Nghaernarfon ar y 4ydd o Ebrill am 20:00.

 

A YW’R LLEOLIAD YN DDIOGEL O RAN COVID-19?

Cynhelir y profiad cyfan yn yr awyr agored a byddwn yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth trwy gydol y digwyddiad.
Rhagwelwn y bydd llai o bobl yn y perfformiadau ganol yr wythnos ac yn hwyrach yn y nos, fydd yn rhoi cyfle i gadw mwy o bellter oddi wrth eraill hefyd.

 

A OES ANGEN I MI DDOD FY MHASBORT COVID-19 / TYSTIOLAETH BRECHU / PRAWF NEGYDDOL?

Ar hyn o bryd NID yw’n ofynnol dangos pasbortau Covid, tystiolaeth brechiadau na phrawf coronafeirws negyddol yn unrhyw un o’r 5 lleoliad, yn ddarostyngedig i ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth.

 

A FYDD ANGEN I MI WISGO GORCHUDD WYNEB?

Gan mai profiad awyr agored yw hwn nid yw’n ofynnol gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y digwyddiad.

 

MANYLION CYSWLLT

Gellir cysylltu â’n tîm cymorth trwy anfon neges e-bost i [email protected]

 

Dewch ar Daith