Lleoliad: Y Maes
Dyddiad: 30 Mawrth– 5 Ebrill
Amser: 8:45pm – 9:45pm (Mae’r sioe’n para 25 munud a bydd yn cael ei chynnal sawl gwaith ar bob noson)
Mynediad am ddim
Y SIOE
Bydd Amdanom Ni ar y Maes yng Nghaernarfon o 30 Mawrth tan 5 Ebrill 2022
Yn ystod y dydd, o 10am ymlaen, bydd safle sioe Amdanom Ni ar agor i’r cyhoedd allu crwydro o’i gwmpas. Bydd ein plinthiau sgrin fideo mawr yn dangos cynnwys a grëwyd mewn partneriaeth â phobl o bob un o’r pum lleoliad, ac mae croeso ichi wylio’r rheiny a thynnu lluniau.
Gyda’r nos, am 8pm, bydd safle ein sioe yn trawsnewid er mwyn rhannu Amdanom Ni, sef arddangosfa amlgyfrwng a pherfformiad byw yn yr awyr agored yn dechrau am 8.30pm ac yn para 25 munud y tro. Mae’n cynnwys tafluniadau fideo a cherddoriaeth, ac yn archwilio’r daith thematig o’r Glec Fawr i’r presennol hynod gysylltiedig.

Y Maes yn y gwanwyn
CORAU LLEOL
Mae’n bleser gan Amdanom Ni gael cydweithio â Chôr Dre, Côr Eifionydd a Chôr Kana yng Nghaernarfon.
PARTNERIAID LLEOL
Mae Amdanom Ni yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag M-SParc.
BLE I FYND
Y Maes, Caernarfon, Gwynedd LL55.
Mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus ar gael gerllaw. Y rhai agosaf at y safle yw Maes Parcio’r Cei Llechi a Maes Parcio Aml-lawr Penllyn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Os oes gennych ragor o gwestiynau, edrychwch ar ein tudalen cwestiynau cyffredin, yma.
Cofiwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn @AboutUs2022 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ac ymuno â’r dudalen ddigwyddiadau i gael gweld pwy arall sy’n mynd.